Y New Inn yn ailagor

“Y bobol leol sy’n bwysig i fi. Nhw sy’ ’ma bob blwyddyn, bob dydd.”

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

O ddydd Llun nesaf, y 26ain o Ebrill, mae tafarnwyr Cymru’n cael tynnu peints eto. Mae rheolau a chanllawiau, wrth gwrs, felly dyma Yvonne Edwards, perchennog tafarn Y New Inn yn Llanddewi Brefi, yn sôn am gael ailagor wedi’r Cyfnod Clo diweddaraf.