Traddodiad Gwasanaeth Nadolig yn parhau yn Ysgol Henry Richard

Cynhaliwyd gwasanaeth rhithiol eleni er mwyn sicrhau bod y traddodiad yn parhau.

Fel arfer, ar ddiwrnod olaf y tymor, byddai holl ddisgyblion a staff Ysgol Henry Richard, yn ogystal â rhieni ac aelodau’r gymuned, yn ymlwybro lawr i Gapel Bwlchgwynt, Tregaron ar gyfer y Gwasanaeth Nadolig. Wrth gwrs, nid oedd hyn yn bosib eleni ond ni wnaeth hyn ein hatal ni rhag cadw’r traddodiad pwysig i fynd.

Eleni, cyflwynwyd gwasanaeth Nadolig rhithiol. Gwelwyd amryw o dalentau’r disgyblion wrth i unawdwyr ac offerynwyr ein diddanu drwy’r sgrîn. Cafwyd darlleniadau safonol wrth y prif ddisgyblion a’r dirprwy brif ddisgyblion. Yn ogystal â’r unawdwyr, cafwyd perfformiad grymus gan y PicTôns wrth iddyn nhw ein hatgoffa, er i bethau deimlo’n ddu ar adegau, “Trwy ffydd, Daw’r dydd, Goleuni fydd! Cawn eto fyw yn rhydd!” 

Yn ddiweddglo gwych i’r gwasanaeth oedd côr rhithiol yn llawn o staff a disgyblion yr ysgol. Braf oedd gweld cymaint o wynebau yn cyd-ganu cân ‘Nadolig Llawen i chi gyd’ a’r wynebau hynny yn amrywio o’r Meithrin i Flwyddyn 11.   

Diolch i bawb a gyfrannodd at y gwasanaeth mewn unrhyw ffordd. 

Roedd ymdeimlad cryf y dylid gwneud pob ymdrech i barhau gyda chymaint o draddodiadau a phosib eleni, yn enwedig y gwasanaeth Nadolig, sydd yn flynyddol yn goron ar y dathliadau yn yr ysgol. Fel y dywedodd Mrs Eilian Rosser ddoe – dyw Nadolig ddim yn dechre tan i ni fynychu’r gwasanaeth carolau! 

Gallwch wylio’r gwasanaeth ar wefan yr ysgol neu ar ein sianel youTube. Cliciwch ar y ddolen yma Gwasanaeth Nadolig YHR