Siop y Bont Pontrhydfendigaid

Diolch i Siop y Bont Pontrhydfendigaid am wasanaeth gwych yn ystod Pandemig.

gan Gwenllian Beynon
llwytho-stoc-yn-Siop-y-Bont

Llwytho Stoc

siop-y-Bont-2

Siop y Bont Pontrhydfendigaid

siop-y-bont-Pontrhydfendigaid

Mae’n braf gweld busnes lleol yn llwyddo yn ystod amgylchiadau anodd iawn. Mae Siop y Bont Pontrhydfendigaid wedi bod yn fisi iawn ers mis Mawrth ac rydym ni yn lleol yn falch iawn ohonyn nhw.

Nid yn unig mae siop pentref fel hyn yn cynnig gwaith i bobl leol, ond yn ogystal mae’n gysur, yn gwmni ac yn ganolbwynt i bobl y gymuned. Mae’r staff yn gyfeillgar dros ben ac o hyd yn falch am sgwrs wrth eich gweini. 

Cewch wasanaeth ddwyieithog naturiol yma sydd yn grêt.

Mae siwr o fod wedi bod yn anodd iawn ar adegau i’r siop gyda’r newydiadau cyson yn ystod y pandemig. Maent siwr o fod wedi bod yn fwy na siop i nifer fawr o bobl- falle nad ydynt wedi gweld fawr o bobl eraill yn ystod amseroedd y clo.

Yn ystod y pandemig mae’r siop fach hon wedi cynyddu ar eu stoc o gynnyrch o Gymru gan gynnwys nifer o wahanol fathau o alcohol a bwydydd Cymreig. Fedrwch hyd yn oed brynu eli i draed eich ci!

Yn ogystal â bwydydd mae’r siop hefyd yn gwerthu cardiau a phethau celfyddydol gan artistiaid o Gymru. 

Maent yn ogystal wedi ymateb i’r cyfnod clo trwy gynnig gwasanaeth un wrth un i brynwyr trwy fwcio slot gall berson fod yn y siop ar ei ben/phen ei hun a threulio cymaint o amser maent eisiau i siopa. Mae manteisio ar hyn y rhywbeth spesial iawn i brynwyr.

Gwelir yn aml y golau arno yn y siop ar ôl amser cloi, gan eu bod, wrth gwrs yn brysur yn stocio’r silffoedd ac yn glanhau wedi i’r cwsmeriaid adael.

Ni’n lleol yn hynod o ddiolchgar i’r siop am y gwasanaeth ers blynyddoedd ond yn enwedig yn ystod y pandemig. Os ydych am ymweld â’r siop byddwch yn barod i aros mewn rhes tu allan, ym mhob tywydd, gan mai dim ond dau ar y tro sydd yn gallu ymweld, a chofiwch wisgo mwgwd.
Ond mae werth yr aros.