Pethau cyffrous yn digwydd ym Mynachlog Fawr ac Ystrad Fflur.

Sgwrs fyw gyda Anderw Green am ei lyfr ‘Wales in a 100 Objects.’

gan Gwenllian Beynon
126533345_1299263733767879Prosiect Ystrad Fflur â chaniatad Andrew Green

Clawr y llyfr gan Andrew Green Wales in a 100 Objects

126325064_231659358309714Prosiect Ystrad Fflur â Chaniatad Andrew Green

Tu mewn i glawr y llyfr Wales in a 100 Objects gan Andrew Green

67803833_1977525015680951Prosiect Ystrad FFlur

Mynachlog Fawr Ystrad Fflur

Ers 2016 mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yn ardal Ystrad Fflur gan Brosiect Ystrad Fflur ac yn benodol yn adeiladau’r hen ffermdy, Mynachlog Fawr. Un o nodau Prosiect Ystrad Fflur yw datblygu’r hen adeiladau yma a’r hyn sydd o’u hamgylch yn Ganolfan sy’n dathlu hanes, diwylliant ac amgylchedd Cymru. Mae lawer o weithgareddau cymunedol ar y cyd â’r gymuned a busnesau lleol yn cael eu cynnal ac yn y cyfnod yma mae rhai yn symud ar lein.

Nos Wener 27/11/2020 mae Prosiect Ystrad Fflur yn trefnu cyflwyniad a sgwrs fyw gydag Andrew Green (tan 2013 roedd yn Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) am ei lyfr, ‘Wales in a 100 Object’ . Bydd y sgwrs yn cael ei chynnal ar Zoom. Yn ystod y sesiwn bydd Andrew hefyd yn rhoi cyflwyniad byr i brosiect cyffrous Tŷ Pair un o adeiladau’r ffermdy Mynachlog Fawr a bydd cyfle i ofyn cwestiynau ar ôl y sgwrs.

Mae’r llyfr ‘Wales in a 100 objects’ yn llyfr sy’n adrodd lawer o straeon am Gymru.

Mae pob stori yn seiliedig ar wrthrych y gellir ei ddarganfod yn rhywle yng Nghymru ac sydd ar gael i’r cyhoedd – mewn amgueddfa, archif, neu lyfrgell. 

Yn aml gall edrych ar wrthrychau a meddwl amdanynt fod yn ffordd fwy byw o ymgysylltu â hanes na gwrando ar ddarlithydd neu ddarllen llyfr hanes confensiynol.

Mae’r gwrthrychau yn dod o bob cyfnod o hanes a chynhanes Cymru. Maent ar sawl ffurf, gan gynnwys offer, arfau, dillad, celfi, mapiau, llawysgrifau, offerynnau, crochenwaith, ffotograffau, teganau, baneri ac yn y blaen.

Ymhlith y gwrthrychau mae:

– cwpan bren Nanteos sy’n gysylltiedig ag Abaty Strata Florida.

– pamffled gwrth-gaethwasiaeth Gymreig ym 1792.

– cap rhyngwladol pêl-droed a enillodd y pêl-droediwr cynnar Billy Meredith.

– bathodynnau o streic y glowyr ym 1984-85.

Bydd y sgwrs yma yn Saesneg ond cofiwch fod Andrew Green wedi ysgrifennu’r llyfr anhygoel yma yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

 

‘Wales in 100 Objects’ gan Andrew Green – sgwrs ar lein a chwestiwn ac ateb.

Dydd Gwener, 27 Tachwedd 2020 am 19:00

Trefnwyd gan Strata Florida Project – Prosiect Ystrad Fflur

Bwciwch ar lein https://www.eventbrite.co.uk/e/wales-in-100-objects-by-andrew-green-online-talk-and-qa-tickets-128478076385