Nadolig Yw! ???????⛄️
Oherwydd yr amgylchiadau, yn anffodus nid yw’n bosibl i’r clwb i fynd allan i ganu carolau o amgylch yr ardal eleni!
Mae hyn yn dipyn o golled i’r gymuned ac i’r elusennau rydym fel arfer yn eu cefnogi, felly er mwyn sicrhau bod neb yn colli allan (ar wrando ar leisiau pert aelodau C.Ff.I Llanddewi-Brefi!) rydym wedi penderfynu creu ‘Cân Nadolig’ am eleni!
Diolch enfawr i Deulu Llwyn am ysgrifennu geiriau Cymraeg i’r gân enwog ‘Do They Know It’s Christmas’ i ni sydd yn seilideig ar sefyllfa’r Nadolig eleni.
Bydd holl elw’r gân yn mynd tuag at ‘Tir Dewi’ a ‘The DPJ Foundation’ er mwyn iddynt barhau gyda’u gwaith hanfodol yn nghefn gwlad Cymru!
Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw gyfraniad a fydd yn ein helpu i gyrraedd ein targed o £500!
Mwynhewch a cofiwch gyfrannu trwy ddilyn y linc isod!