Mwstwr y Mart yn Nhregaron

Diwrnod da yn arwerthiant hyrddod Tregaron 29/09/2020

gan Efan Williams

Y ddau hwrdd a werthwyd am y pris uchaf, o eiddo Eirwyn Richards, Cwmcelynen, Pumsaint

Y ddau hwrdd a werthwyd am y pris uchaf, o eiddo Eirwyn Richards, Cwmcelynen, Pumsaint

Ar ddydd Mawrth y 29ain o Fedi 2020, cynhaliwyd arwerthiant hyrddod Cymreig Tregaron. Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus dros ben o brynu a gwerthu gyda ffermwyr o bell ac agos yn dod ynghyd.

Ar y diwrnod aeth 380 o hyrddod dan y morthwyl ac roedd dewis eang o stoc â graen arnynt. Mae prisiau uchel yn arwydd o arwerthiant da ac roedd y prisiau dydd Mawrth yn dechrau ar 300 gini.

Y pris uchaf ar y dydd oedd 3250 gini a’r ail oedd 2550. Roedd y ddau hwrdd mwyaf gwerthfawr yn eiddo i Mr Eirwyn Richards, Cwmcelynen, Pumsaint. Eirwyn yw’r 5ed cenhedlaeth o’i deulu i fagu defaid Cymreig ac meddai:

“Ry’ ni wastad wedi gwerthu yn Nhregaron am mae dyna’r teip ni’n cadw. Ry’ ni’n teimlo’n falch bod yr hyrddod i gyd wedi mynd i gartrefi da, at fridwyr profiadol, yn y gobaith y byddant yn mynd ymlaen i fagu cenhedlaeth arall o hyrddodd o’r safon uchaf.”

 

Y ddau hwrdd a werthwyd am y pris uchaf, o eiddo Eirwyn Richards, Cwmcelynen, Pumsaint

Rydyn ni yn ardal Tregaron yn hynod falch bod y mart yn parhau yn y dref ac yn gwerthfawrogi prysurdeb y diwrnod yn fawr iawn. Trueni mawr fyddai colli sŵn y lleisiau a chyfle i gymdeithasu ar ddiwrnod y mart, ac mae pwysigrwydd y dydd yn glir i Dic Jones;

Eto i’w anterth fe ddaeth arwerthwr

i ymbil am gynnil winc bargeiniwr,

Daeth cymdogaeth amaethwr – i’w ocsiwn

 phobo fastwn, a phawb a’i fwstwr.

 

Bydd ail arwerthiant hyrddod Tregaron yn digwydd ar ddydd Mawrth 13eg o Hydref 2020.

Diolch i Eirwyn Richards a Dafydd Jones am y lluniau a’r wybodaeth.