O Langeitho i Ohio

Detholiad o luniau gan Dan Rowbotham o Langeitho â oedd yn gweithio fel “Davis Intern” yng Nghanolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio Grande, Ohio rhwng Ionawr 2018 a Rhagfyr 2019. Ariannwyd yr interniaeth gan Bet ac Evan Davies a Chanolfan Madog.

Dan Rowbotham
gan Dan Rowbotham
Fi gyda Jeanne Jones jindra, Cyfarwyddwraig Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig

Fy Mam Americanaidd! Cefais y croeso cynhesaf gan Jeanne a’i theulu yn Ohio. Cafwyd sawl p’nawn wrth y pwll yn nhŷ hi a’i gwr, Lou, a sawl ymweliad i’n hoff le bitsa! Mae Jeanne wedi bod â diddordeb yn ei threftadaeth Gymreig erioed, a’i swydd yn y ganolfan yn siwto i’r dim! Agorwyd y ganolfan ym 1997 wedi cefnogaeth gan y gymuned leol a haelioni teulu’r Davis’ o Oak Hill, Ohio.

"Historical marker" - Gallipolis

Gellir gweld hanes Cymry Ohio yn cael ei adrodd ar fyrddau tebyg i hyn. Dyma’r un sy’n nodi glaniad y Cymry yn Ohio. Damwain llwyr oedd cyrraedd y rhan yma o Ohio, y bwriad odd i gyrraedd “Paddy’s run” i’r gogledd o Cincinnati, Ohio.

Ysgol Uwchradd Oak Hill

Dyma fy mhrofiad gyntaf o fynd i’r ysgol yn yr Unol Dalaiethau! Roedd hi’n brofiad rhyfedd iawn, ond roedd y disgyblion côr a cherddorfa wedi bod yn gwmni gwych o’r diwrnod hwnnw ymlaen. Buodd sawl ymgais ar ddweud Llanfair P.G, ond neb yn llwyddiannus!

WAHM

Amgueddfa Treftadaeth Cymreig-Americanaidd (WAHM) – Lleolir yr amgueddfa ym mhentref Oak Hill, pentref a sefydlwyd gan y Cymry ag ymfudodd o ardal y mynydd bach yn ystod y 1830au a’r 1840au. Hen gapel Cymreig a phrynwyd gan grŵp gweithgar o Gymry-Americanaidd yn ystod y 1970au yw hi, llawn trysorau o Gymru, yr ardal leol a thu hwnt!

Baner Esiteddfod Lima, Ohio

Dyma’r faner sy’n hongian ar blaen yr Amgueddfa Treftadaeth Gymreig yn Oak Hill, Ohio. Daw o Lima, yng ngogledd-orllewin Ohio yn wreiddiol.

Criw Ohio yng Ngheredigion

Ar gyfer dathliadau Cymru-Ohio yn haf 2018, daeth oddeutu hanner cant o Americanwyr draw i gyd-ddathlu! Esgus perffaith i ddod adre am wythnos o wyliau, er nad oedd ’na gyfle go iawn am hoi, roedd hi’n wythnos i’w chofio!

I'r Talbot!!

Beth yw ymweliad i Dregaron heb beint yn y Talbot a chlywed am hanes yr Eliffant?! Gwaith sychedig oedd agor arddangosfa Celf ar y cyd rhwng darlithwyr o Brifysgol Aberystwyth a phrifysgol Rio Grande yng ngaleri Canolfan Rhiannon yng nghwmni ffrindiau o Ohio.

Gwesty'r Cambrian.

Mae stamp y Cymry ar siroedd Jackson a Gallia, Ohio i’w weld yn blaen ar hed y 68 milltir o “Welsh Scenic Byway” sy’n cysylltu llefydd o bys Cymreig-Americanaiadd yn ne-ddwyrain Ohio. Dyma fi, gyda Jonathan ac Owain o Goleg Celf Abertawe yn ymweld â hen westy’r Cambrian yn jackson, sydd erbyn hyn yn fflatiau. Roedd Draig y Cambrian arfer bod ar y llawr yn croesawu gwesteion y Cambrian Hotel.

WSCO

Pob dydd Sadwrn am 3 mis, nes i yrru i Columbus, prif ddinas talaith Ohio i ddysgu Cymraeg i grŵp o aelodau Cymdeithas Cymraeg Canol Ohio (WSCO). Siwrne o 2 awr POB ffordd! Dyma’r dechrau ar ail-gychwyn gwersi trwy Ganolfan Madog ar gyfer astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio. Dyma rhai o’n 66 o fyfyrwyr a mynychodd gwersi Cymraeg yn ystod fy nghyfnod fel Intern Davis.

Cinio Gwyl Ddewi Radnor

Un o fy 3 cinio gŵyl Ddewi yn 2019! Mae’r llun yma o ginio Radnor. Lleolir Radnor tua’r Gogledd i Columbus, prifddinas Ohio. Daeth Cymry De-ddwyrain Ohio o’r mynydd bach, daeth Cymry Radnor o Radnor! Cynhaliwyd y cinio yn Eglwys Gymreig y pentref ac mi wnes i gyflwyniad am fywyd yng Nghymru.

Twmpath Ysgol Gynradd Oak Hill

Yn ystod fy amser, ces i sawl wahoddiad i ymweld â dosbarthiadau mewn ysgolion a chlybiau ar ôl ysgol. Pa ffordd well i losgi ychydig o’ch egni cyn mynd adre na rhediad sydyn o Gylch y Cymry?!

Diwrnod graddio

Wrth weithio yng Nghanolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio Grande, mi wnes i gwblhau gradd Meistr mewn addysg. Dyma fi’n cuddio tu ôl fy nheulu yng nghwad y Coleg ar ddiwrnod derbyn fy ngradd.

Eisteddfod Follies Oak Hill

Ges i’r fraint o feirniadu Eisteddfod gyntaf Ysgol Uwchradd Oak Hill. Dyma ddigwyddiad olaf y flwyddyn ysgol, ac yn draddodiad newydd i aelodau Côr yr Ysgol Uwchradd.

Eisteddfod Jackson - Westview

2019 oedd y 95ain Eisteddfod yn ysgolion dinas Jackson, Ohio. Dyma rhai o ddisgyblion Ysgol Gynradd Westview gyda’u rhubanau am ganu Calon lân. Dewisodd 40 i ganu yn Gymraeg y flwyddyn honno!

Gwersyll Haf 2019 yn cwrdd â llywydd Prifysgol Rio Grande

Ym mis Mehefin 2019, cynhaliwyd wythnos o “wersyll” Cymraeg gan Ganolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymreig ym Mhrifysgol Rio Grande, dyma’r criw yn cyfarfod â llywydd y brifysgol tra ar daith o’r campws cyn mynd ôl i’r dosbarth am wersi Cymraeg, twmpath, Eisteddfod fach a choginio pice bach!

Côr Cymru Gogledd America

Yn ystod fy amser yn Ohio, mi wnes i ymuno â Chôr Cymru Gogledd America, ges i’r cyfle i ganu gyda nhw yn ŵyl Cymru Gogledd America ym Milwaukee, Wisconsin.

Aduniad Richards

Roedd aduniadau teuluol yn cael tipyn o sylw yn yr unol daliaethau, dyma fi a chriw o ymwelwyr o Goleg Celf Abertawe yn ffeindio’n hunain yn aduniad teuluol y teulu Richards. Roedd bwyd, canu, a chyfle i glywed straeon a hanes y teulu. Roed ambell un wedi bod i Gymru i weld ble adawodd y Richards cyntaf yn ystod y 1830au a 1840au, cyfnod a elwir yn “Great Welsh Tide” gan haneswyr de-ddwyrain Ohio.

Gwasanaeth Nadolig 2019

Pob blwyddyn, mae’r amgueddfa yn Oak Hill yn cynnal gwasanaeth Nadolig, roedd un 2019 y diwrnod cyn i mi hedfan am adre. Roedd y gwasanaeth yn benllanw misoedd o waith aelodau côr yr ysgol uwchradd leol i ddysgu ychydig o garolau a chaneuon Cymraeg.

Fi, Jeanne Jones Jindra (cyfarwyddwriag Canolfan Madog), Bet ac Evan Davies

Heb gefnogaeth y tri yma, ni fyddai’r cyfle i fod yn Davis Intern wedi bod yn bosib. Mawr yw fy niolch i Jeanne Jones Jindra a Bet ac Evan Davis.

Ty Ni. "Cartref"

Mae myfyrwyr o Gymru wedi bod yn lletya yn neuaddau preswyl y brifysgol ers degawdau, rhai wedi gadael eu marc ar y dodrefn!

Ychydig o luniau o fy amser fel myfyriwr ac intern ym Mhrifysgol Rio Grande, Ohio yn yr Unol Dalieithiau.