Helpwch ni i Helpu eraill.

Disgyblion Ysgol Henry Richard yn casglu eitemau ar gyfer Banc Bwyd Llambed.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
bwyd

Bwydydd addas ar gyfer Banc Bwyd

Elin-Williams-Caron-8

Elin Williams, Caron 8. Awdur yr adroddiad.

Adroddiad gan Elin Williams, Caron 8, Ysgol Henry Richard yn rhan o Broject Gwersi Thema.

Ers ddechrau’r pandemig ac yn ystod cyfnod y clo mawr, mae’r banc bwyd yn Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn bwysicach nag erioed. Mae’r bobl sydd wedi colli eu gwaith, y bobl sydd yn llai ffodus, angen help y banc bwyd i gael bwyd ac eitemau hanfodol.  

 Ar drothwy’r gaeaf, mae’r banc bwyd yn ei chael hi’n anodd cyflenwi bwyd ac eitemau i’r holl deuluoedd sydd angen cymorth. Gan fod y Nadolig yn agosáu, bydd rhai teuluoedd yn methu rhoi bwyd ar y bwrdd, neu yn methu prynu anrhegion i’w plant. Felly mae’r banc bwyd yn erfyn am unrhyw gefnogaeth yn ystod yr amser anodd hwn. 

Ma’ nhw angen ein help ni! 

Mae disgyblion Ysgol Henry Richard wedi penderfynu mynd ati i helpu. Mae’n bwysig i ni gyd gofio am bawb yn ystod y cyfnod heriol hwn o ran Covid-19 ac hefyd ar ddechrau’r tymor ewyllys da. Mae disgyblion yr ysgol yn mynd i ddod ag eitemau neu lenwi bocsys gyda nwyddau hanfodol, ac rydym hefyd fel ysgol yn awyddus i holl gymuned Bro Caron ein helpu ni.  

Gofynnwn yn garedig am unrhyw help. Gallwch ddanfon yr eitemau i mewn i’r ysgol. Bydd disgyblion Ysgol Henry Richard yna yn trosglwyddo’r eitemau i fanc bwyd Llanbedr Pont Steffan yn y gobaith o fedru gwneud gwahaniaeth. 

Dyma wir ystyr y Nadolig – cyd-dynnu, helpu eraill a bod yn garedig.