Cymuned Tregaron yn cofio

Sul y Cofio gwahanol yn 2020

gan Catherine Hughes

Oherwydd yr amgylchiadau sydd ohoni, roedd Sul y Cofio yn wahanol iawn yn ein trefi a phentrefi heddi.  Er mwyn cadw at gofynion Covid bu rhaid cynnal ein coffâd tu allan i’r Neuadd Goffa ble cyflwynwyd torchau ar ran Y Cyngor Tref, yr Ysbyty, y Frigâd Dân a’r Heddlu. Darllenwyd enwau naw deg tri o ddynion o Dregaron a’r ardal a gollodd eu bywydau mewn dau ryfel byd ynghŷd â phump bu farw yn Ysbyty Tregaron oherwydd eu hanafiadau.

“Pan ewch rhagoch, dywedwch amdano ni,

Ein heddiw a roesom am eich yfory chi. “