Cwrdd unwaith eto!

Drysau Capel Bwlchgwynt yn ailagor.

gan Catherine Hughes

Hyfryd oedd cael croesawu y gynulleidfa yn ôl i Gapel Bwlchgwynt am y tro cyntaf ers mis Mawrth! Wedi gosod yr arwyddion a dilyn yn canllawiau ar gyfer ail-agor, cafwyd gwasanaeth bendithiol dan arweiniad ein gweinidog Parch Carwyn Arthur gyda help technegol Alicia. Od iawn oedd hi i weld pawb mewn mygydau a dim canu!! Bwriedir cynnal ein gwasanaeth nesaf ar Hydref y 4ydd am ddeg o’r gloch. Croeso i bawb.

1 sylw

Efan Williams
Efan Williams

Llongyfarciadau a phob lwc i’r dyfofol!

Mae’r sylwadau wedi cau.