Canslo arholiadau – ond y pryder yn parhau i’r bobl ifanc

“Sai’n gweld e yn deg,” meddai Megan Dafydd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Yr wythnos hon, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y byddai’n canslo arholiadau TGAU a Safon Uwch y flwyddyn nesaf.

Bydd disgyblion yn cael eu hasesu ar waith cwrs ac asesiadau’n lle.

Aeth Caron360 am sgwrs gyda Phrif Swyddogion Ysgol Henry Richard, Zara Evans a Megan Dafydd, i glywed eu barn.

“Mae dal yn sefyllfa anodd i ni”

Yn ôl Megan a Zara, mae’r cyhoeddiad yn cael gwared ar un broblem, gan greu un arall.

“Er bod nhw’n gweud fydd yna ddim arholiadau, maen nhw’n camarwain ni achos mae dal asesiadau yn mynd i gael eu marcio yn allanol, felly mae dal yn sefyllfa anodd i ni,” meddai Megan.

Yn hytrach nag lleddfu’r pwysau, mae Zara’n teimlo bod y pwysau am gynyddu, wrth iddynt wynebu cyfnodau hir o asesu.

“Mae mwy o bwysau,” meddai Zara, “am fod rhaid i ni berfformio ar ein gorau trwy’r flwyddyn a casglu mwy o dystiolaeth i ddangos bo’ ni ar y gradd rydym yn dderbyn.”

Colli allan ar y profiad o sefyll arholiadau

Dywedodd y disgyblion eu bod yn poeni bod y sefyllfa yn mynd i’w rhoi o dan anfantais wrth sefyll arholiadau yn y dyfodol.

“Does ganddo ni ddim profiad o eistedd arholiadau yn y neuadd,” meddai Zara, “dim hyd yn oed yn blwyddyn 10, ‘da ni’n gwneud rhai GCSE’s yn blwyddyn 10, ond cafodd rheini eu canslo hefyd.

“Felly dydy ni ddim yn gwybod be ydi’r teimlad o gael arholiad o dan y pressure.

“A dw i’n credu fydd hynna’n struggle i ni’n gwneud Lefel A.”

Diffyg manylion yn gwneud hi’n anodd

Mae ansicrwydd y sefyllfa hefyd yn gwneud hi’n anodd blaenoriaethu eu gwaith, yn ôl y disgyblion.

“Gyda GCSE’s normal, roedd pawb yn gwybod reid ma’ ‘da fi arholiadau’n dechrau mis Mai a fel mae’n nhw’n gwybod pedwar mis cyn hynny – Pa ddyddiad yw’r arholiad.

“So ni’n gwybod beth sydd yn yr arholiadau… So’r athrawon yn gwybod beth sydd yn yr arholiadau ac mae hynny bach yn bryderus.

“Sai’n gweld o’n deg,” meddai Megan.

Mae modd darllen mwy o ymatebion fan hyn.