Bachgen lleol yn creu celf ar S4C.

Siôn o Bontrhydfendigaid yn ymddangos ar y gyfres newydd Y Stiwdio Grefftau gan Boom Cymru ar S4C.

gan Gwenllian Beynon
129035363_193911048985284Siôn Teifi Rees

Siôn Teifi Rees a’r Delyn Aerodynamic

127890986_668576137140203Siôn Teifi Rees

Siôn yn creu

128079862_488240412151623Siôn Teifi Rees

Telyn Siôn

127586050_375685020192524Siôn Teifi Rees

Telyn Siôn

127567078_1292797797752772Siôn Teifi Rees

Telyn Siôn

Mae Siôn Teifi Rees yn dod o Bontrhydfendigaid ac yn ymddangos ar y gyfres teledu newydd ar S4C Y Stiwdio Grefftau.

‘Cyfres newydd yn clodfori campweithiau crefftus i’w trysori am byth. Bydd tri crefftwr dawnus yn cystadlu â’i gilydd er mwyn ennill y fraint o arddangos eu gwaith i’r cyhoedd ar ran mudiadau mwyaf pwysig Cymru.’

Mae Siôn yn gynddisgybl o Ysgol Uwchradd Tregaron (Ysgol Henry Richard) ac ysgol Gymunedol Pontrhydfendigaid. Aeth ymlaen i astudio cwrs sylfaen yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerfyrddin ac mae nawr yn ei drydedd flwyddyn yn Ysgol Celf a Dylunio, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Meddai’r Artist Meinir Mathias, cyn diwtor personol Siôn yng Nghaerfyrddin: “Mae’n braf gweld un o’m cynfyfyrwyr yn ymddangos ar y Stiwdio Grefftau. Mae gan Siôn ffordd unigryw o weithio yn greadigol ac roedd yn hoffi edrych a thynnu sylw ar y pethau anweledig fel yr elfennau gan gynnwys symudiad gwynt ac aer. Dymunaf longyfarchiadau iddo.” 

Yn y rhaglen a ddarlledwyd ar nos Fawrth 8fed o Ragfyr, y mudiad dan sylw oedd yr Eisteddfod Genedlaethol a ‘nhw oedd yn gosod her creu cerflun i ddathlu Eisteddfodau’r gorffennol a’r dyfodol.’ Tro 3 artist ifanc oedd hi y tro yma i greu darn o waith celf i ddathlu’r mudiad.

Meddai Siôn, “Ges i fy newis i fod ar raglen newydd Y Stiwdio Crefftau. O’dd ‘da fi fis i wneud ‘large scale sculpture’ i fynd tuag at yr Eisteddfod yn Nhregaron. Dewisais wneud e i gysylltu â fy ngwaith Prifysgol a gwneud rhywbeth wedi ysbrydoli gan aerodynamics, gan fy mod yn ‘mad obsessed’ ‘da Formula 1, haha!” Cafodd Siôn “le yn Y Stiwdio Gynaliadwy yng Nghaerdydd i weithio ar y prosiect.” Yn ogystal bu’n gweithio ac yn creu’r cerflun yn y Drenewydd am gyfnod.

Ar y rhaglen gyda Siôn, ac yn cystadlu yn ei erbyn, mae dau artist ifanc arall sef Tomos Sparnon a Mared Davies. Cafodd y 3 gyllid i weithio ar eu darnau, a chanllawiau gan yr Eisteddfod Genedlaethol.

Nod y rhaglen yw creu darn o waith i fudiad ac yna bydd y mudiad yn dewis y gwaith sydd mwyaf addas, o’r tri, i’w mudiad nhw. 

Meddai Siôn am y prosiect, “o’dd e’n stressful ac o’n i’n gweithio’n hwyr mewn i’r nos a ‘last minute’ ar y cerflun. Fi’n falch iawn o beth wnes i ac wedi dysgu llwyth.” Mae’r prosiect anhygoel hyn yn amlwg yn sylfaen ardderchog iddo iddo edrych at raddio yn yr haf. 

Ei ddarn terfynol oedd ‘telyn aerodynamic’ pinc, hynod o drawiadol a chyfoes. Mae Siôn yn ei waith Prifysgol yn gweithio ar sut mae pethau yn symud trwy’r aer ac mae ganddo obsesiwn tu hwnt gyda cheir cyflym. Felly gwelir yn y darn yma ysbrydoliaeth o hanes a diwylliant yr Eisteddfod a dyfodol y delyn, a cherddoriaeth yn hedfan trwy’r aer. 

I mi fel darlithydd Celf a Dylunio sydd yn adnabod y 3 artist ifanc yma, rwyf yn teimlo’n hynod o obeithiol am gelf yng Nghymru ac yn falch iawn nad oeddwn i yn feirniad ar y rhaglen yma!. Llongyfarchiadau i Siôn ac hefyd i Tomos a Mared ar waith trawiadol iawn. 

I weld mwy am waith Siôn ewch i’w instagram