Cyflwynwraig ifanc, leol ar Radio Cymru.

Nest Jenkins a’i ffrind, Jacob, sy’n cyflwyno slot wythnosol newydd sbon ar Radio Cymru yn ystod mis Rhagfyr.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Croten ifanc o Ledrod yw un o leisiau diweddaraf Radio Cymru. Magwyd Nest ar fferm Ynysforgan, Lledrod, mynychodd yr ysgolion lleol cyn mentro hi am y Brifysgol yng Nghaerdydd. Yno, graddiodd â gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith a’r Gymraeg. Mae’n aelod gweithgar iawn o GFfI Lledrod, yn wyneb cyfarwydd iawn ar lwyfannau eisteddfodol ein bro ac yn frech sydd â’u gwreiddiau yn ddwfn ym Mro Caron.

Tra’n fyfyrwraig yng Nghaerdydd, dechreuodd gyflwyno Sioe Frecwast ar Xpress Radio, gyda’i ffrind, Jacob, a chafodd flas ar fyd darlledu. Mae’r ddau yn cyd-fyw yng Nghaerdydd bellach ac yn dilyn cwrs MA mewn Newyddiaduraeth Ddarlledu. (cwrs blwyddyn)

Tra’n cyflwyno’r rhaglen frecwast, Crac y Wawr ar Xpress Radio, llwyddodd Nest a Jacob i ddenu’r nifer fwyaf erioed o wrandawyr i’r orsaf. Cipiodd y sioe adloniant yma’r wobr am Raglen Gymraeg orau Xpress Radio ddwywaith hefyd. Arweiniodd hyn at Radio Cymru yn cysylltu â nhw.

Derbyniodd y bartneriaeth wych yma slot ar yr Orsaf Radio Genedlaethol – bob nos Wener, o 6-8yh ym mis Rhagfyr.

“Slot hwyliog yw e, gyda digon o fywyd a digon o diwns.” meddai Nest.

“Rwy’n gyffrous iawn bod y sioe ym mis Rhagfyr hefyd. Ma’ angen rhywbeth i godi calon pobl eleni yn fwy nag erioed ac ry’ ni’n gobeithio gallwn ni ddechre’r penwythnos gyda digon o hwyl.”

Pob hwyl i ti Nest. Rydyn ni gyd yn falch iawn ohonot ti, a bydd Bro Caron i gyd yn gwrando ac yn dy gefnogi.