Marchnad Nadolig Bont yn annog prynu’n lleol

Er na fydd marchnad, da chi, gwariwch eich arian yn lleol. Prynwch anrhegion gan fusnesau bach.

gan Gwenllian Beynon
Marchnad-dolig-Bont_23376485

Marchand Dolig Bont 2019

logo-dolig-bont-2020

Dolig Bont

siec-i-ysgol-bont-dolig-bont

2016 Gwenllian Beynon ac Annwen Davies yn cyflwyno siec i Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid

Marchnad-dolig-Bont

Pafiliwn Bont yn wag eleni

Penwythnos yma byddai Marchnad Nadolig Bont yn cael ei chynnal ym Mhafiliwn Bont fel arfer. Ond oherwydd COVID ni fydd Marchnad eleni.

Gan amlaf mae cannodd yn mynychu’r digwyddiad, gyda nifer helaeth o stondinau a phobl leol yn dod at ei gilydd i brynu, gwerthu ac i fwynhau.

Byddwn yn gweld eisiau bod yno yn fawr eleni a chael plant yr ysgol a’r ysgol Sul yn perfformio a chanu carolau ac hefyd y perfformiadau eraill ar y diwrnod fel arfer.

Mae ein stondinwyr yn sicr yn mynd i golli mas ar y digwyddiad. Penderfynom ni beidio â gwneud marchnad rithiol oherwydd y gwaith sydd yn mynd i drefnu’r fath beth felly rydym yn annog chi yn fawr i brynu yn lleol ac i gefnogi’r holl fusnesau anhygoel sydd yn yr ardal, boed yn siopau neu yn grefftwyr unigol.

Bwriad Marchnad Nadolig Bont yw cefnogi crefftwyr a busnesau lleol a chynnig y cyfle i bobl fedru prynu yn lleol. Yn ogystal rydym yn cyfrannu pob elw tuag at elusennau lleol, hyd yn hyn rydym wedi llwyddo i gefnogi ysgolion yr ardal, gwneud cyfraniadau at ginio Nadolig pobl hŷn, ac i glwb cinio’r ardal, rhoi arian i DASH ac i brynu defibrillator i ardal Ystrad Fflur.

Fe fyddwn yn siario gwybodaeth am fusnesau ar ein cyfryngau cymdeithasol felly ymwelwch â Marchnad Nadolig Bont i weld beth sydd yno.

Felly dyma ddymuno Nadolig Llawen i chi a Blwyddyn Newydd Dda a gobeithio byddwch oll yn cadw’n iach ac yn ffeindio ffordd o fwynhau Nadolig tra wahanol eleni.