Seiclo dros Blant Mewn Angen

Dau o fechgyn Blwyddyn 6, Ysgol Henry Richard, yn seiclo 10km y dydd am wythnos!

Catrin Davies
gan Catrin Davies
Screenshot_20201117_095526
IMG_20201117_093555

Ein enwau ni yw Iago Evans a Osian Jones ac rydym ni yn ddisgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Henry Richard Tregaron.

 

Roedd yr ysgol gyfan wedi penderfynu gwneud heriau ‘Actia dy Oed’ i godi arian ar ddiwrnod Plant Mewn Angen am fod Pydsi yn 40 oed eleni. Roedd rhaid i bawb wneud her yn ddibynnol ar eu hoedran.

Penderfynon ni’n dau i seiclo 10km bob dydd am wythnos am ein bod ni yn 10 oed. Aethon ni allan i seiclo yn syth ar ôl ysgol am 4 o’r gloch bob nos. Roedd yn waith caled ac roedd y coesau wedi blino erbyn diwedd yr wythnos ond roedd rhaid seiclo yn gyflym i gyrraedd adre cyn iddi hi dywyllu.

Gwnaeth Aled Hughes, Radio Cymru, ysbrydoli ni i wneud y sialens a fe wnaeth hyd yn oed sôn amdanom ni ar y radio.

Llwyddodd yr ysgol i godi £1,320 drwy wneud heriau a thrwy wisgo pyjamas i’r ysgol. Diolch i bawb wnaeth ein noddi ni. Rydym yn ei werthfawrogi yn fawr.