Dychwelyd i bêl droed ar ôl 8 mis!

Turfs yn ysu i chwarae eto.

Catrin Davies
gan Catrin Davies
125302464_10218387744986705

Ar ôl 8 mis heb gêm, mae pêl-droed nôl! Chwaraeodd y ddau dîm Turfs ddwy gêm ar Goedlan y Parc, Aberystwyth ar yr unfed ar bymtheg o Dachwedd – yr ail dîm yn chwarae Borth a’r tîm cyntaf yn erbyn yr hen elyn, Bont! Dyma’r canlyniadau a’r sgorwyr.

 

Turfs Reserves 3 Borth 4

Jayden Hinds ⚽ Jay Kenney ⚽ Jac Hockenhull ⚽

Turfs 4 Bont 0

Ifan Jones ⚽ Daniel Owen ⚽ Rhodri Jones ⚽ Deian Williams ⚽

Diolch i Bont a Borth am y gemau. Bydd y tîm cyntaf oddi cartref yn erbyn Penrhyn yr wythnos nesaf ar y nos Wener, a Turfs Reserves oddi cartref yn erbyn Felinfach Reserves ar y dydd Sadwrn.

Pob lwc!

 

(Dilynwyd Canllawiau FAW trwy gydol y gemau.)