YesTregaron

Grwp newydd YesCymru i’r ardal yn esbonio ei bwrpas ac amanion.

Lucas Harley-Edwards
gan Lucas Harley-Edwards
YesCymru logoYesCymru
Cors Caron

Enghraifft orau o gors wedi’i godi ym Mhrydain

Shwmae! Lucas Harley-Edwards dw i o YesTregaron, grwp a sefydlwyd yma ar y 21ain o Hydref 2020.

Prif nod y grŵp hwn yw codi ymwybyddiaeth o’r manteision y gallai annibyniaeth eu cynnig i Gymru, o gymeryd y cam hwnnw. Er enghraifft, oeddech chi’n gwybod bod Cymru’n pwmpio 243 biliwn litr o ddŵr i Loegr bob blwyddyn. Ond nid ein cymunedau ni sy’n elwa. Mae cwmnïau yn berchen ar sawl cronfa yn y Canolbarth ac yn gwerthu’r dŵr gan wneud elw blynyddol o £1 Biliwn. ‘Does dim ceiniog o hwn yn dod nol i Gymru.

Mae Cymru’n genedl falch gyda’i hiaith, traddodiadau a chymunedau ac hunaniaeth ein hunain sy’n datblygu drwy’r amser. Mae’n genedl sy’n estyn dwylo agored i’r byd. Ni all y Gymru gynhwysol, gyfartal a modern yr ydym am ei weld fforddio i barhau i fod ar waelod rhestr y Deyrnas Gyfunol.  Mae cydraddoldeb sofran yn un o egwyddorion sylfaenol y Cenhedloedd Unedig. Gadewch i ni fod yn rhif 194 o genhedloedd annibynnol.

Bwriadwn ddechrau cynnal cyfarfodydd cyhoeddus pan fydd y pandemig hwn wedi dod i ben. Yn y cyfamser dymunwn gadw’r gymuned yn ddiogel a iach yn eich cartrefi.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn ymuno neu ddod i gyfarfodydd y grŵp cysylltwch â ni:

Facebook: https://www.facebook.com/YesTregaron

Twitter: https://twitter.com/YesTregaron

Instagram: https://www.instagram.com/yestregaron/

E-bost: yestregaron@gmail.com

Diolch am ddarllen yr erthygl hon. Gobeithio clywed gennych yn fuan,

Lucas Harley-Edwards (ar ran YesTregaron)