Tregaron Turfs yn cefnogi ymgyrch gwrth-hiliaeth

Carden goch i hiliaeth!

gan Sam Jones

Mae Pencampwyr Cynghrair Cambrian Tyres Aberystwyth, Tregaron Turfs wedi dangos eu cefnogaeth i ymgyrch ‘No Room For Racism’ Uwch Gynghrair Lloegr trwy brintio’r logo ar eu citiau ar gyfer tymor 2020/21.

Dywed y clwb eu bod yn falch o ddangos eu cefnogaeth i ymgyrch sy’n brwydro yn erbyn cam-drin hiliol a gwahaniaethu mewn pêl-droed.

Yn y llun gwelir Capten y Clwb, Ifan Jones gyda’i gyd-chwaraewyr Carwyn Earey a Rhun Garner.

Dywedodd Dilwyn Daniel, Cadeirydd y clwb ac un o hyfforddwyr y tim hŷn, “Rydyn ni’n credu bod angen gweld y neges hon ym mhêl-droed o bob safon, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth a dangos cefnogaeth i’r broblem fyd-eang sef hiliaeth”.

“Rydym ni ein hunain wedi bod yn dyst i hiliaeth lafar tuag at un o’n chwaraewyr ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae’n dal i fod yn sioc i bawb yn y clwb hyd heddiw”.

“Rydym yn glwb bach yng Nghanolbarth Cymru ond yn gobeithio y gall ein hystod fach o gefnogaeth, helpu i addysgu eraill a hysbysebu bod hiliaeth yn bodoli ym mhobman. Gallwn ni ddim sefyll yn dawel a gwneud dim”.