Cystadleuaeth Ffotograffiaeth!

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth gan Pentir Pumlumon

Pentir Pumlumon
gan Pentir Pumlumon

Rydym yn chwilio am lun gwych i’w ddefnyddio ar glawr cerdyn Nadolig 2020 Pentir Pumlumon.

Bydd yr enillydd yn mwynhau noson i ffwrdd i ddau berson mewn pod moethus gyda thwba twym yn Wigwam Holidays Aberystwyth, yn edrych ar draws Dyffryn Rheidol*. Diolch anferth i Stephen ac Angela Griffiths am eu caredigrwydd yn cyfrannu’r wobr wych hon.

Mae eleni heb fod yn flwyddyn arferol, felly dydyn ni ddim yn chwilio am lun arferol, Nadoligaidd. Y thema yw “2020, Bywyd Dan Glo” . Hoffem weld lluniau sy’n adlewyrchu eich profiad chi o’r flwyddyn ryfedd iawn hon, ac a fyddai’n addas ar gyfer ein cerdyn Nadolig.

Rhaid bod y llun wedi ei dynnu rywle yn Ucheldir Ceredigion, felly yr ydym yn edrych ar gymunedau cymoedd Ystwyth a Rheidol ac i lawr i Bont a Thregaron. Gallai fod yn olygfa yn unig, yn cynnwys bywyd gwyllt neu anifeiliaid fferm, gyda neu heb bobl! Gall unrhyw un gystadlu, does dim angen i chi fod yn ffotograffydd proffesiynol.

Uchafswm o ddau lun y pen yn unig. Anfonwch eich lluniau i tanya@pumlumon.org.uk erbyn hanner nos ar 2 Tachwedd gyda disgrifiad byr o’ch llun. Cyhoeddir yr enillydd ar 10 Tachwedd. Bydd y llun buddugol yn cael ei ddefnyddio ar ein cerdyn Nadolig. Bydd amrywiaeth o luniau eraill yn cael eu rhannu ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Hoffwch ein tudalen Facebook er mwyn dilyn ein cynnydd ac am newyddion lleol.

Pob lwc! ?

 

Tanya Friswell

Swyddog Datblygu Cymuned a Twristiaeth

PENTIR PUMLUMON

01974 282581

Ariennir y swydd hon drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth CymruRhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020 a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd.

*Amodau’n Berthnasol

 

1 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.