Logo i’n Gwefan!

Y barcud coch yw eicon newydd Caron360. 

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
logo

Bu cryn drafod am logo’r wefan dros Zoom mewn mwy nag un cyfarfod dros y Cyfnod Clo.

Beth allwn ni ddefnyddio, sy’n cynrychioli ein bro mewn un llun bach, clir, syml? Dim byd rhy fawr, dim byd rhy gymhleth, rhywbeth sy’n crynhoi’r fro yn ei chyfanrwydd. Rhai posibiliadau a drafodwyd oedd plu’r gweunydd, mwgwd Twm Siôn Cati, Henry Richard, Abaty Ystrad Fflur a bocs ffôn Soar y Mynydd. Penderfynwyd yn y diwedd ar y creadur eiconig, nodweddiadol i’n hardal, y barcud coch.

Aderyn sy’n hofran yn gyson uwch ein pennau a thros ein bro, yn cadw llygad ar bawb a phopeth… sef union bwrpas Caron360. Un lle, i bawb allu gweld beth sy’n mynd ymlaen ym Mro Caron. Lle hefyd i bawb gyfrannu straeon am eu ‘patshyn’ nhw. Mae’n aderyn pwerus, hudolus, prydferth, sy’n cynrychioli’r ardal a’i thrigolion yn berffaith, weden i. Mae digon o sŵn gan y barcud hefyd, fel y nodir yn llinell gyntaf yr englyn am y creadur â’r gynffon fforchog:

 

Y Barcut Coch

A gwichlef deil yn gochlyd – ar gyrrau
Tregaron y cynfyd
I hofran… hofran o hyd:
Min aeonau mewn ennyd.     (Donald Evans) 

 

Felly croeso i’r barcud, y logo newydd… ein llygaid, ein clustiau a’n llais ni ar Caron360. Cyfrannwch, darllenwch, mwynhewch.