Casglu nwyddau a chodi arian

Ysgol Henry Richard yn rhoi ail-fywyd i’r pethau dy’ch chi ddim eisiau rhagor!

Catrin Davies
gan Catrin Davies

Roedd cyfnod y clo yn amser perffaith i roi trefn ar y tŷ ac mae sawl un ohonom ni wedi bod wrthi yn clirio cypyrddau a dreiriau oedd heb eu cyffwrdd ers blynyddoedd! Sawl gwaith glywsoch chi rywun yn dweud yn ddiweddar ’mae hwn yn gyfle perffaith i gal ‘clear-out’ go iawn’?

 

Wel, y cwestiwn wedyn yw, beth mae dyn yn ei wneud gyda’r holl nwyddau dyw e ddim eisiau rhagor?

Mae Ysgol Henry Richard wrthi yn trefnu casgliad Bag2School a fydd yn digwydd ar Fedi 30ain. Os oes gennych unrhyw fagiau duon gyda nwyddau ‘o ansawdd da’ byddai’r ysgol yn ddiolchgar iawn i’w derbyn yn y pafiliwn chwaraeon ar y diwrnod hwnnw. Gweler y llun atodol am fwy o fanylion o’r hyn y gellir eu cyfrannu. 

Ewch i https://bag2school.com/ i ddarllen rhagor am sut mae’r broses yn gweithio a sut y gall eich nwyddau rhoddedig ddechrau eu hail fywyd ym myd newydd yr economi gylchol a chodi arian anhygoel i’r ysgol ar yr un pryd!