Rasio yn y Gwaed

Y pencampwr ifanc Tomos Lloyd o Ledrod yn edrych ymlaen i ailddechrau rasio

Anna ap Robert
gan Anna ap Robert
IMG_5799

Tomos Lloyd TA42

Ar ôl i’r car bach fod yn y sied drwy’r flwyddyn, mae Tomos Lloyd o Ledrod yn edrych mlaen i ailddechrau rasio ddydd Sul nesa.

Daeth Tomos Lloyd (neu TA42, sef enw ei gar) Tynrhelyg, Lledrod i frig cystadleuaeth rasio ‘grasstrack’ yn nosbarth y Junior Specials 2019.

Er mai dim ond ers 2 flynedd Mae Tomos wedi bod yn rasio, bu’n gweithio’n galed i ennill sawl ras a nifer o dlysau drwy gydol y flwyddyn.

Yn ogystal â chystadlu’n lleol ar drac rasio De Cymru yn Rhos-goch, Sir Benfro bu hefyd yn teithio Prydain ac Iwerddon a chystadlu yng Nghyfres Awtograss Prydain (BAS). Cafodd y bedwaredd safle yn Iwerddon a oedd yn golygu ei fod yn un o’r pedwar lwcus i dderbyn tlws yno. Ar ddiwedd y gyfres daeth yn seithfed allan o tua 50 o gystadleuwyr yr adran Iau dros wledydd Prydain ac Iwerddon. Fe roddodd hyn hyder iddo a’r cymhelliant i weithio’n galed o dan adain ei Dad Geraint Lloyd, oedd hefyd yn rasiwr brwd yn ei amser, a gwellodd ei sgil fel gyrrwr rasio ymhellach.

Mae’n gystadleuydd brwd ac wrth ei fodd ar y trac, yn rasio yn erbyn ei gyfoedion sydd yr un mor gystadleuol ag ef. Ond oddi ar y trac mae pawb yn ffrindiau da ac yn cael llawer o hwyl.

Yng Nghinio blynyddol Clwb Moduro Teifi, ei glwb lleol, a gynhaliwyd ym mis Chwefror eleni, derbyniodd y tlws am ddod yn gyntaf yn nosbarth y Junior Specials yn ogystal â thlws Pencampwr Pencampwyr Juniors Clwb Moduro Teifi.

Yng nghinio blynyddol Cynghrair Awtograss De Cymru ym mis Ionawr derbyniodd Tomos y tlws am ddod yn gyntaf yn Nosbarth y Junior Specials yn ogystal â thlws Pencampwr Pencampwyr Juniors De Cymru 2019.

Mae’n edrych ymlaen yn fawr at ailddechrau rasio ddydd Sul nesa, ac mae’n anelu at fod yn bencampwr y BAS (Cyfres Awtograss Prydain) rhyw ddydd. Pob lwc iddo!