Dod ag Eliffant Tregaron yn fyw

Gofyn am help pobol a phlant yr ardal i wneud sioe am y creadur chwedlonol yn Eisteddfod y flwyddyn

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Logo sioe;'r eliffantEisteddfod Genedlaethol

Fe fydd Eliffant Tregaron yn dod yn fyw unwaith eto y flwyddyn nesa’ mewn sioe sy’n cael ei chreu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dre’.

Y bwriad yw casglu syniadau o bob math gan blant a phobol leol er mwyn creu sioe liwgar am yr hyn ddigwyddodd i’r eliffant, sy’n rhan o chwedloniaeth y dre’.

Yr Eisteddfod Genedlaethol sydd wedi comisiynu sioe wedi ei seilio ar hanes yr eliffant, gan wahodd pobol leol i gynnig syniadau “rhyfeddol a hynod” at sioe deulu pan ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y flwyddyn nesaf.”

Yr eliffant yn “fyw yn nychymyg pobol Tregaron”

Mae’r cynhyrchiad wedi cael croeso cynnes gan y cynghorydd lleol, Catherine Jane Davies.

“Mae pawb yma yn gyfarwydd â’r stori, ac mae i yn sicr yn fyw yn nychymyg pobol Tregaron,” meddai.

“Dw i’n meddwl y bydd y sioe yn gyfle cyffrous iawn, ac mae’n hyfryd bod yr Eisteddfod yn gwahodd pobol leol i gymryd rhan ynddi,” meddai wrth golwg360.

“Yn sicr, bydd yn rhywbeth i edrych ymlaen amdano.”

Llenwi’r bylchau – dau sesiwn Zoom

Mae yna fylchau yn y stori fel y mae, meddai un o’r cynhyrchwyr, Elgan Rhys, a’r bwriad yw cael pobol a phlant lleol i gynnig syniadau i’w llenwi.

Mae yna wahoddiad i gymryd rhan mewn dau sesiwn Zoom sy’n cael eu cynnal ddydd Llun 3 Awst a ddydd Gwener 7 Awst er mwyn casglu syniadau.

“Mae stori Eliffant Tregaron yn rhan bwysig o hanes yr ardal, ac mae’n sail wych ar gyfer sioe i apelio i’r teulu i gyd,” meddai Elgan Rhys.

“R’yn ni’n edrych ymlaen yn arw i glywed syniadau dychmygus am yr eliffant er mwyn ein helpu i fynd ati i ddatblygu’r sioe.”

Y stori – hyd yn hyn …

Mae’n debyg fod yr eliffant wedi marw tra oedd yn rhan o syrcas deithiol yng Ngheredigion yn 1848.  

Bu archeolegwyr o Brifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant yn cloddio’n aflwyddiannus am weddillion yr eliffant yn 2011 gan ddilyn y stori ei fod wedi ei gladdu yng nghefn tafarn y Talbot.

Y gred yw bod yr eliffant wedi bod yn rhan o grŵp teithiol Batty’s Menageries ac iddo fynd yn sâl ar ôl yfed dŵr o ffynnon oedd wedi ei wenwyno gan blwm.