Defib i Dregaron

Clwb Pêl-droed y Turfs yn rhoi defib i Dregaron

gan Arwel Jones

Efallai eich bod wedi sylwi ar yr ychwanegiad bach yma i ffrynt siop Spar Tregaron heddiw.

Gwnaeth aelodau o Glwb Pêl-droed Tregaron Turfs redeg dros 1,700 o filltiroedd mewn mis a chodi cyfanswm o £4,300 at yr ysbyty, syrjeri, nyrsys cymunedol a Bryntirion yn Nhregaron. Fe wnaethon ni godi dros 8 gwaith y targed gwreiddiol o £500 ac ar ôl siarad gyda’r 4 lle, penderfynon ni ddefnyddio peth o’r arian i roi diffibriliwr ar sgwar Tregaron. Mae’r diffibriliwr yma’n gallu achub bywydau a byddwch yn gallu cael mynediad iddo bob awr o’r dydd. Hoffen ni ddiolch yn fawr i Spar am roi’r diffibriliwr ar ffrynt y siop ac am ddarparu’r trydan iddo. Diolch hefyd i Melfyn am roi ei amser i roi popeth yn ei le. Mae’r cabinet wedi cael ei gysylltu i’r trydan ac mae’r diffibriliwr wedi cael ei roi ynddo. Bydd hwn ar gael i’w ddefnyddio nawr 24/7.