Aros am Ypdêts

Wedi profi problemau technegol yn ystod y Cyfnod Clo? Laptop yn pwdu? Ypdêts di-ben-draw? Gallwch chi uniaethu â ni felly. Gwyliwch hwn.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Wrth i blant ac athrawon Cymru baratoi i fynd nol i’r ysgol fory, faint ohonoch chi'n sy'n uniaethu â ni?! (Yn enwedig os chi’n defnyddio Microsoft Teams!)

Posted by Iwan Rhys Davies on Sunday, 28 June 2020

Athrawon ydyn ni, Enfys Hatcher (fi) ac Iwan Davies yn ysgol Henry Richard.

Yn ystod y Cyfnod Clo, rydyn ni wedi bod yn addysgu’n disgyblion ar y we gan ddefnyddio rhaglen Microsoft Teams, ac mae’r gân yn cyfleu ein rhwystredigaeth ar adegau!

Mae’r geiriau’n adrodd stori wir – eisteddais yn y car ym maes parcio’r ysgol yn aros am ypdêts ar fy laptop! Tra’n eistedd yn y car, yn aros ac aros, daeth geiriau’r gerdd i fodoli! Danfonais y geiriau at fy nghyd-athrawon, ac yn wir, drannoeth, tra’n eistedd yn ei gar ef… ym maes parcio’r ysgol… yn aros am ypdêts ar ei laptop… cyfansoddodd Iwan yr alaw i gyd-fynd â’r geiriau.

Iwan sydd hefyd yn canu i gyfeiliant ei iwceleli. Fy mab, Trefor yw prif gymeriad y ffilm, ac Iwan roddodd y cyfanwaith at ei gilydd i greu’r fideo yma i godi calonnau.

Mae cymaint wedi datgan eu bod yn uniaethu â ni a chymaint wedi teimlo fel rhoi ffling i’r gliniadur! Felly dyma gynnyrch maes parcio Ysgol Henry Richard i chi.